Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mercher, 8 Chwefror 2017
Amser: 09.00 -
12.07
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3879
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Simon Thomas AC (Cadeirydd) Mike Hedges AC Eluned Morgan AC David Rees AC Steffan Lewis AC Nick Ramsay AC Mark Reckless AC |
Tystion: |
Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Tania Nicholson, Llywodraeth Cymru Emma Williams, Llywodraeth Cymru Dyfed Alsop, Llywodraeth Cymru Claire McDonald, Llywodraeth Cymru Jo Ryder, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Georgina Owen (Dirprwy Glerc) Gemma Gifford (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Gareth Pembridge (Cynghorydd Cyfreithiol) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.1 Nodwyd y cofnodion.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes; Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cymorth i Ddysgwyr, Llywodraeth Cymru; a Tania Nicholson, Pennaeth Rhaglen Ddeddfwriaethol Anghenion Dysgu Ychwanegol, Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysgiadol (Cymru).
3.2 Cytunodd y Gweinidog i wneud yr hyn a ganlyn:
· ysgrifennu at y Pwyllgor yn amlinellu sut y bydd y pecyn cymorth o £20 miliwn ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol, a gyhoeddwyd ar 7 Chwefror 2017 yn hwyluso a chefnogi gweithredu'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysgiadol, gan gynnwys sut y bydd yn cael ei broffilio ar gyfer awdurdodau lleol;
· adrodd i'r Pwyllgor ynghylch sut y bydd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysgiadol yn cael ei weithredu ar ôl cwblhau'r gwaith craffu, gan amlinellu sut y bydd yn cael ei fonitro; ac
ysgrifennu at y Pwyllgor os bydd angen rhagor o adnoddau mewn perthynas â rôl statudol swyddog meddygol neu glinigol dynodedig, ar ôl ymgynghori â'r Grŵp Arbenigol ar Iechyd a chynlluniau peilot.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Clywodd y Pwyllgor briff technegol ar Awdurdod Refeniw Cymru gan Dyfed Alsop, Cyfarwyddwr Gweithredu Awdurdod Refeniw Cymru, Llywodraeth Cymru; Claire McDonald, Rheolwr Rhaglen Weithredu Awdurdod Refeniw Cymru, Llywodraeth Cymru; a Jo Ryder, Rheolwr Prosiect Pobl Awdurdod Refeniw Cymru, Llywodraeth Cymru.
7.1 Clywodd y Pwyllgor bapur ar y trefniadau tâl a thelerau eraill ar gyfer penodiadau'r Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru a chytunwyd i ymgynghori yn unol â gofynion Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru).
8.1 Trafododd y Pwyllgor oblygiadau ariannol Bil yr Undebau Llafur (Cymru) a chytunodd i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet.